Cwis Dim Clem Quiz
Llongyfarchiadau mawr i Ela, Francessca, Kai a Jac oedd yn fuddugol yng ngwis Dim Clem, De Ceredigion. Trefnwyd gan Cered, Menter Iaith Ceredigion. Pob lwc yn y rownd nesaf.
Newyddion/ News
Llongyfarchiadau mawr i Ela, Francessca, Kai a Jac oedd yn fuddugol yng ngwis Dim Clem, De Ceredigion. Trefnwyd gan Cered, Menter Iaith Ceredigion. Pob lwc yn y rownd nesaf.
Buodd y plant yn gwneud nifer o wahanol weithgareddau ade wythnos gwrth-fwlio
Ymunodd ein Llysgenhadon a chynrychiolwyr o'r Cyngor Ysgol y Lleng Brydeinig Frenhinol mewn gwasanaeth i gofio'r cadoediad. The School Ambassadors and representatives from the School Council joined the Royal British Legion in a service to commemorate Armistice
Y mae Mr Robert Jones yn ymddeol wedi dros 35 o flynyddoedd o wasanaeth yn Ysgol Gynradd Aberaeron. Fe fyddwn yn gweld ei eisiau yn fawr - mae wedi bod yn athro ymroddedig a theyrngar dros y blynyddoedd. Dymunwn ymddeoliad hir, hapus ac iach iddo ac rydym yn siwr o'i weld o gwmpas Aberaeron
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at yr apêl eleni. Llwyddodd yr ysgol i godi £144.30 tuag at yr apêl.
Eleni daeth pawb i’r ysgol mewn pyjamas a chael gwallt gwyllt. Llwyddwyd i godi £400.00 i’r apêl. Diolch i bawb a gyfrannodd.
Cafodd bl. 5 a 6 y cyfle i weld perfformaid newydd gan Arad Goch sef ‘Tu Fewn a Tu Fas’. Ar ôl y perfformiad cynhaliwyd gweithdai i’r plant yn seiliedig ar beth welwyd.
Eleni aeth 12 o ddisgyblion ati i greu Cibab ffrwythau yn rownd yr ysgol o Cogurdd. Llongyfarchiadau i Ela Mablen ar ddod yn fuddugol ac i Maisie Tuson a Ella Phillips am ddod yn gydradd ail. Diolch i chi gyd am gystadlu a gwneud ymdrech arbennig.
Llwyddod Ela i ddod yn drydydd yn rownd derfynol y Sir.
Cafodd y Dewiniaid Digidol wythnos brysur yn addysgu eu cyd-ddisgyblion. Cynhaliwyd gwasanaeth i holl ddisgyblion yr ysgol. Aeth y Dewiniaid Digidol o gwmpas y dosbarthiadau yn rhoi gwersi ar
Derbyn—defnyddio y bee-bots newydd yn y dosbarth
Blwyddyn 1—creu logo e-ddiogelwch newydd ar JIT
Blwyddyn 2—Codio e-ddiogelwch
Blwyddyn 3 a 4—Microbits
Cafodd blwyddyn 5 a 6 wersi ar seibr fwlio, pwysigrwydd o greu cyfrineiriau cryf ac hefyd e-byst sbam.
Gorffenwyd yr wythnos drwy ymweld â chartref preswyl Min y Môr i ddarparu sesiwn TGCh
Fel rhan o thema’r dosbarth meithrin a derbyn, cafwyd ymweliad cyffrous iawn gan Elin, un o gyflwynwyr Cyw. Treuliodd Elin y bore yn canu a dawnsio gyda’r plant i nifer o ganeuon Cyw. Cafwyd hefyd sesiwn stori ac bu’r plant yn mwynhau gofyn cwestiynau iddi. Aeth Elin nôl gyda llond car o luniau lliwgar.
Trefnwyd ddisgo Santes Dwynwen i’r ysgol gyfan gan aelodau’r Cyngor Ysgol a Siarter Iaith er budd gwaith yr Urdd yng Nghylch Aeron. Gwerthwyd cacennau, bisgedi a ffrwythau yn y disgo ac bu pawb yn danwsio i gerddoriaeth Cymraeg. Hefyd crewyd cardiau Santes Dwynwen gan aelodau’r cynghorau i werthu.
Diolch i bawb a gyfranodd tuag at y diwrnod.
Llongyfarchiadau i Celt a Trystan am gyflwyniad arbennig i benaethiaid y Sir ar ein defnydd o Yoga a 'Speakr' yn yr ysgol i hyrwyddo lles ein disgyblion. Trefnwyd gan Ysgolion Iach y Sir