Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

January 2024

  • Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd / Red, White & Green Day

    Published 24/01/24

    Daeth pawb i’r ysgol yn gwisgo dillad coch, gwyn a gwyrdd. Dechreuwyd y diwrnod gyda gwasanaeth arbennig. Cynhaliwyd weithgareddau yn seiliedig a’r yr Urdd ac hefyd coch, gwyn a gwyrdd. Codwyd £112 tuag at yr Urdd.

    Read More
  • Bl.3 Llangrannog Year 3

    Published 24/01/24

    Treulioddd Bl. 3 ddau ddiwrnod llawn iawn yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Cafwyd amser arbennig yn gwneud pob math o weithgareddau, ac yn cymdeithasu â phlant o ysgolion eraill. Dychwelodd pawb i’r ysgol drannoeth ychydig yn flinedig, ond wedi cael amser bythgofiadwy.

    Read More
  • Fari Lwyd

    Published 24/01/24

    Soniwyd am hanes y Fari Lwyd gyda disgyblion blwddyn 1 a 2 a chynhaliwyd weithgareddau yn y dosbarth yn seiliedig a’r yr hanes.

     

    Read More
  • Traddodiadau'r Flwyddyn Newydd / New Year Traditions

    Published 24/01/24

    Cafodd disgyblion y dosbarth meithrin a derbyn hanes traddodiadau’r flwyddyn newydd ac am greu ‘perllan’ gan Nia Llywelyn. Crewyd ’perllan’ gan y plant yn dilyn y sgwrs.

    Read More
  • Rotari / Rotary

    Published 23/01/24

    Diolch i aelodau Rotari Bae Ceredigion am ofyn i’r plant eu cynorthwyo wrth greu anrhegion Nadolig i drigolion Min y Môr. Cafwyd diwrnod prysur yn coginio cacennau Nadolig a addurno potiau cyn plannu bylbiau. Aeth cynrychiolaeth o’r ysgol i Min y Môr i ddosbarthu’r anrhegion. Gobeithio bydd y cacennau yn flasus.

    Read More
  • Cyngor Ysgol / School Council

    Published 23/01/24

    Rhoddwyd llwyfan i leisiau dyfodol Ceredigion wrth i aelodau Cyngor yr Ysgol a chynghorau ysgolion cynradd clwstwr Aeron ymuno am brynhawn yn y Siambr ym Mhenmorfa. Cafwyd y cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau a Swyddogion y Cyngor a thrafod y posibilrwydd o newid i drefn gwyliau Ysgol newydd. Cafwyd brynhawn ysbrydoledig iawn.

    Read More
  • Sioe Swyn Show

    Published 23/01/24

    Ymwelodd holl blant y Dysgu Sylfaen â Theatr Felinfach i wylio’s sioe Swyn. Roedd y sioe yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe. Taniwyd dychymyg y plant drwy stori a dawns. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am y grant tuag at costau’r ymweliad.

    Read More
  • Deffibriliwr / Defibrillators

    Published 23/01/24

    Fel rhan o waith blynyddoedd 5 a 6 a’r y galon, aethant am dro o gwmpas Aberaeron yn edrych ar leoliadau deffibriliwr. Daethant o hyd i 8 deffibriliwr o amgylch y dref. Ymwelodd Rhodri a Pauline o Wasanaeth Ambliwlas Cymru i roi sesiwn diffibriliwr i’r plant. Cafodd pawb cyfle i weld sut mae defnyddio diffibriliwr ac hefyd sesiwn ymarferol a’r ailgychwyn y galon. Mwynheuodd pawb cyfle a diolch i Rhodri a Pauline am roi o’u hamser.

    Read More
  • Ffair Aeaf / Winter Fair

    Published 18/01/24

    Teithiodd disgyblion blwyddyn 5 i’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Yn y bore cymerwyd ran yn sesiwn ‘Ein Tir’ lle cafwyd cyfwynaid gan Michael Kennard o’r ‘Compst Club’ ac yna gan Adam Jones o Adam yn yr ardd. Yn y prynhawn cafwyd y cyfle i gerdded o amgylch y sioe yn gweld yr anifeiliaid, gwylio’r cystadlaethau, siôpa a bwyta. Mwynheuodd pawb y diwrnod a dychwelwyd wedi blino’n lân

    Read More
  • Pêl-droed / Football

    Published 18/01/24

    Derbyniodd tîm pêl-droed merched a bechgyn blynyddoedd 5 a 6 yr Ysgol wahoddiad i ymuno ag Ysgol Gynradd Aberteifi mewn prynhawn o hwyl yn chwarae gêmau o bêl-droed. Diolch yn fawr iddynt am y gwahoddiad, fe wnaeth pawb fwynhau.

    Read More
  • Cystadleuaeth Pêl-rwyd Merched / Girls Netball Competition

    Published 18/01/24

    Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd merched yr Ysgol am ddod yn 2il yng nghystadleuaeth pêl-rwyd merched yr Urdd rownd gogledd Ceredigion. Chwaraewyd yn arbennig o dda a diolch i Miss Davies am eu hyfforddi.

    Read More
  • Celf Blwyddyn 4 / Year 4 Art

    Published 18/01/24

    Fel rhan o brosiect ymchwil Natalie Chapman o Galeri Gwyn a’i thad George Chapman, bu disgyblion blwyddyn 4 yn ymweld â Galeri Gwyn i edrych a’r waith celf Geroge Chapman. Daeth Natalie i’r ysgol i gynnal dau sesiwn celf gyda’r plant lle buont yn creu bathodynnau a collage. Diolch yn fawr iawn am y cyfle

    Read More